English / Cymraeg

header

01267
233 510

slice

Ein Gwasanaeth Dylunio

Os yw'r dylunwaith terfynol yn barod gyda chi i'w argraffu, neu hyd yn oed os mai syniad bras yn unig sydd gennych o'r hyn sydd ei angen, mae ein tîm dylunio yn barod i helpu...

  • Gwasanaeth dylunio cyflawn - mae ein dylunwyr profiadol wastad ar gael i gynnig gwasanaeth ymgynghori ac i roi cyngor i chi ynglŷn â sut i gael y cynnyrch gorau o fewn eich cyllideb. Os nad oes gennych waith celf digidol, gallwn weithio o gopi sydd eisoes wedi’i argraffu, ac ail-greu’r gwaith celf i chi. Gallwn ateb y mwyafrif helaeth o geisiadau a’n nod yw eich helpu i gael y cynnyrch oedd gennych mewn golwg yn wreiddiol.
  • Gwaith celf wedi'i gyflwyno’n barod - rydym yr un mor barod i weithio o ffeiliau sydd eisoes wedi'u paratoi. Byddwn yn rhoi canllawiau manwl i chi o ran marciau crop, bleeds ayyb pan fyddwch yn penderfynu rhoi'r gwaith i ni. Sicrhewch fod y gwaith celf wedi cael ei brawfddarllen a'i gywiro. Bydd angen llai o amser yn yr ystafell ddylunio ar y ffeiliau hyn, a chaiff hynny ei adlewyrchu yn y pris. Mae'r ffurfiau rydym yn eu ffafrio yn cael eu rhestru isod.

Rhowch y copi caled diweddaraf i ni gydag unrhyw ffeiliau sydd wedi'u cwblhau. Os ydych chi wedi gorffen ffeiliau mewn unrhyw raglen arall, cysylltwch â ni i weld os oes modd i ni drin y ffeiliau.

File Formats

  • Quark
  • InDesign
  • Illustrator
  • Photoshop
  • Freehand
  • PDF