Hanes

Hanes

Ar y 25ain o Ebrill 1866, pan oedd sylfaenydd Gwasg Gomer, John David Lewis yn 7 oed, ysgrifennodd yn ei ddyddiadur:
“Dechreuodd fy nhad gadw siop ar ei liwt ei hun o’i gartref, Y Llew Coch, gyferbyn â’r Prif Dŷ.”

Roedd y busnes yn llewyrchus a llwyddiannus a symudwyd i adeilad fwy o faint yn sgil hynny. Bu J.D. Lewis yn helpu rhedeg y siop wrth iddo dyfu, ac fe fagodd hynny gariad oes tuag at lyfrau a darllen. Mae’r dyfyniad hwn gan Gibbon yn un o’i lyfrau nodiadau: “Mae cael blas ar lyfrau yn rhoi pleser ac anrhydedd mwyaf fy mywyd i mi. Ni fyddwn yn ei gyfnewid am holl gyfoeth yr India.”

Felly, pan fu ei dad farw yn 1889, nid yw’n syndod y dechreuodd J.D. Lewis gadw stoc o lyfrau ymysg y bwydydd, nwyddau haearn, brethyn a grawn yn y “Market Stores”. Datblygodd ei freuddwyd o sefydlu gwasg argraffu hefyd.

Prynodd ei beiriant argraffu cyntaf yn Aberhonddu yn 1892. Gan nad oedd yn gwybod dim am y broses argraffu bryd hynny, fe hysbysebodd am argraffydd a phenodwyd dyn pedair ar bymtheg oed a oedd wedi bwrw’i brentisiaeth yn Sir Fôn. Profodd hyn i fod yn sylfaen cadarn ar gyfer llwyddiant y busnes. Roedd W.J. Jones, neu Jones Y Printer, fel y daethpwyd i’w adnabod, yn grefftwr medrus ac yn athro a wasanaethodd y cwmni yn ffyddlon. Parhaodd yn weithgar dros ben am ddegawdau gan weithio fel cysodydd hyd ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth yn 1955, ac yntau’n 82 oed.

Dewiswyd yr enw Gwasg Gomerian bron yn sicr yn sgil y parch mawr oedd gan J.D. Lewis tuag at y Parch. Joseph Harris (1773-1825), a oedd yn dwyn yr enw Beiblaidd Gomer fel ei enw barddol.

Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Hanes Plwyf Llandysul yn 1894. Roedd hon yn gyfrol o 350 tudalen, a rhaid oedd gosod pob tudalen, fesul llythyren â llaw, gyda thua 2000 o ddarnau o deip ar bob tudalen. Gyrrwyd y wasg gan y gweithredydd a chofnodwyd mewn llythyr i’r awdur; “Fy mhris am argraffu 1500 o gopïau o Hanes Plwyf Llandysul a’u pacio yn barod ar gyfer y rhwymwyr fydd £53” (tua £3500 yn arian heddiw).

Mae yna gofnod dyddiadur o 1901 yn dangos y parodrwydd i fuddsoddi sydd wedi nodweddu Gwasg Gomer byth ers hynny; ““Fix oil engine in shed outside house, spindle from shed underneath road to present kitchen, furniture etc. being removed to small kitchen. Double Crown [peiriant argraffu] to be removed from present position to kitchen. Sell Demy folio [peiriant argraffu llai o faint] and get a Treadle instead…”

Awgryma’r cofnodion i’r busnes dyfu’n gyflym ar ddechrau’r 20fed ganrif ac roedd marwolaeth annisgwyl J.D. Lewis o gyflwr y gellir ei drin yn gymharol hawdd heddiw yn ergyd drom i’r teulu yn ogystal â’r gymuned ehangach. Gadawodd pedwar mab ar ôl, a syrthiodd y dasg o ofalu am y busnes ar ysgwyddau’r hynaf, David Lewis. Y datblygiad arwyddocaol nesaf oedd prynu peirianwaith cysodi a oedd yn cael ei weithredu’n fecanyddol – a gwnaethpwyd hynny pan oedd dirwasgiad 1926 ar ei anterth. Mae’r ffaith iddynt ddewis y system Monotype yn hytrach na’r Linotype a ddefnyddiwyd gan bapurau newydd yn cadarnhau bod ansawdd yr atgynhyrchu yn hollbwysig yn eu meddyliau. Bu’r penderfyniad craff hwn yn allweddol i’r cwmni tan ddyfodiad yr offer cyfrifiadurol ar ddechrau’r 1970au. Prynwyd y peirianwaith argraffu mwyaf modern hefyd yn ystod y 1930au ac roedd y silindr Wharfdale yn gyfrifol am argraffu llyfrau i rai o gyhoeddwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Hyd at 1945, roedd Gwasg Gomer yn gwmni argraffu yn unig, ond newidiodd pethau pan brynwyd Gwasg Aberystwyth yn ystod y flwyddyn honno, ac mae ochr gyhoeddi’r busnes yn dal i fynd o nerth i nerth hyd heddiw.

Yn 2004, symudodd y busnes o’i gartref ers 112 o flynyddoedd i safle newydd pwrpasol a adeiladwyd ar gyrion Llandysul er mwyn parhau i ehangu a datblygu. Heddiw mae’r ffatri hwn yn cynnwys gwasg berffeithio Heidelberg XL106 yn ogystal â chyfleusterau cyfrifiadur i blât a’r cyfleusterau rhwymo diweddaraf . Mae cariad J.D. Lewis at lyfrau ac argraffu a ysbrydolodd ef yn y lle cyntaf yn dal yn gryf ym mhedwaredd genhedlaeth y teulu sydd yn awr yn rhedeg y busnes. Does dim amheuaeth y daw sawl her arall ynghyd â datblygiadau technolegol pellach yn y dyfodol ac mae’n sicr hefyd y bydd Gwasg Gomer yn parhau i addasu, buddsoddi a ffynnu.