01267
233 510
Y Darn Technegol
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n deall y gwahaniaeth rhwng sglein a sidan, pantones a CMYK, neu beth yw ystyr 90gsm a 350gsm. Rydym ni yma i'ch helpu...
- Papur
-
- Sglein - gorffeniad sy'n disgleirio, gan wneud i liwiau edrych yn fywiog a dwfn. Delfrydol ar gyfer posteri, taflenni ac atgynhyrchu lluniau.
- Sidan - gorffeniad ysgafnach a mwy soffistigedig, sy'n gwneud testun yn haws i'w ddarllen na sglein. Dewis da ar gyfer adroddiadau blynyddol, deunydd hyrwyddo, rhestrau o brisiau ac ati.
- Mat - gorffeniad heb sglein sy'n rhoi edrychiad clasurol. Defnyddir mat yn aml ar gyfer atgynhyrchu ffotograffau du a gwyn.
- Mae pob papur ar gael mewn ystod o bwysau gwahanol. Fe wnewn ni eich cynghori ynglŷn â pha bwysau sy'n addas ar gyfer eich cynnyrch a chyllideb, a gallwn roi samplau i chi ddewis rhyngddynt.
- Lliwiau
-
- Du - Inc du wedi'i argraffu ar bapur o unrhyw liw. Caiff ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer papurau pennawd syml, ffurflenni ac ati.
- Pantone - Cyfeirnod rhyngwladol ar gyfer dewis a rheoli lliwiau inc. Er enghraifft, pe baech chi eisiau testun du a choch yna fe fydden ni'n dyfynnu du + 1 pantone, pe baech chi eisiau testun du gyda logo glas a gwyrdd byddai'n ddu + 2 pantone ac yn y blaen. Ar ôl 2 pantone mae'n fwy cost-effeithiol i argraffu mewn lliw llawn.
- Lliw llawn - cyfeirir ato hefyd weithiau fel CMYK. Caiff ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer gwaith sydd â 3 lliw neu fwy.
- Maint
-
- Gallwn argraffu unrhyw beth o gardiau busnes hyd at 330 x 500mm a phob maint rhwng hynny. Os ydych yn ansicr o'r maint, dewch â sampl i ni neu esboniwch eich syniad i ni, ac fe wnewn ni eich cynghori ynglŷn â beth fyddai orau. Mae Gwasg Gomer, ein chwaer gwmni, yn arbenigo mewn argraffu maint mawr, felly mewn gwirionedd nid oes yr un darn o waith yn rhy fawr na'n rhy fach i ni.
- Nifer o Dudalennau
-
- Caiff y nifer o dudalennau ei gyfrif yn yr un ffordd â thudalennau mewn llyfr. Er enghraifft, mae un tudalen o A5 sy'n cael ei argraffu ar ddwy ochr yn 2 dudalen. Mae un darn o A4 sy'n cael ei blygu yn ei hanner ac argraffu ar bob ochr yn 4 tudalen ac yn y blaen. Mae'n rhaid i bob llyfryn/pamffled gael nifer o dudalennau y gellir ei rannu rhwng 4.
Crynodeb
Papur
- Sglein
- Sidan
- Mat
Lliwiau
- Du
- Pantone
- Lliw llawn
Maint
- Gardiau busnes
- Pob maint rhwng
- B3 (330mm x 500mm)
- Mwy: Gomer